К началу

Dmitri Hrapof

Маѳъ Маѳонъвичь: Cyfieithiad Newydd o’r Mabinogi i (Hen) Rwsieg

Y cwestiwn cyntaf, efallai, yw a oes angen cyfieithiad newydd o gwbl? Mae dau gyfieithiad o’r Mabinogi i’r Rwsieg yn bodoli’n barod, ond yn anffodus, maen nhw’n anghyflawn ac weithiau yn anghywir.

Yn gyntaf cafwyd cyfieithiad Liudmila Volodarskaia, a gyhoeddwyd gan yn y flwyddyn 2000 fel Кельты — Валлийские сказания — Мабиногион (Celtiaid — Chwedlau Cymreig — Mabinogion) (Volodarskaia 2000). Cyfieithiad o’r Saesneg ydyw hwn, o drosiad yr Arglwyddes Charlotte Guest, ac felly mae’n Fictoraidd iawn ei naws. Fe’i hadolygwyd mewn erthygl gan Parina (2003).

Vadim Erlichman ydyw awdur y cyfieithiad arall, Мабиногион. Волшебные легенды Уэльса (“Mabinogion. Chwedlau hudol Cymru”), wedi ei gyhoeddi dwy waith (Erlichman 1995; Erlichman 2002). Gwelir trafodaethau yr argraffiad cyntaf gan Parina (2003) a’r ail argraffiad gan A. Falileyev (2002).

Mae Erlichman yn honni iddo gyfieithu o destun Llyfr Coch Hergest, felly o Gymraeg Canol, ond mae’r adolygwyr yn amau a yw hynny’n hollol wir, am fod yma ormod o gamgymeriadau. Digon yw nodi i’r llythyren [v] Gymraeg gael ei thrawsgrifo yn <ф> [f] Rwsieg, yn hytrach na fel <в> [v], er mwyn cadw enwau yn “hudol” ac yn “egsotig” (Erlichman 1995: 216).

Felly, aethpwyd ati i baratoi cyfieithiad newydd, a hynny i’r Hen Rwsieg. Cyfieithwyd yn gyntaf y Bedwaredd Gainc, sy’n dechrau fel hyn (Andrwsiac, Hrapof 2014):


Маѳъ Маѳонъвичь бѣ володѣıа Гвинедъмь а Прѵдерїи Поуиличь бѣ володѣıа сътогородиѥмь южьнымь · А се бышѧ :z҃: сътогородии Диведьскыхъ и :z҃: сътогородии Моръганоужьскыхъ и :д҃: Кередигїоньскыхъ и :г҃: Дольныхъ Тавиискыхъ

Тѣми часы Маѳъ Маѳоноуичь толи живъ бѣ оли же нозѣ ѥго быста на лонѣ дѣвичьѥмь ѥгда бо тѧготы ратьныѣ томоу не боронишѧ · И дѣва си бѣ Гоѥвинъ Пебиничьна ѿ Дола ѿ Пебинıа иже въ Аръвонѣ · и слоувъши та лѣпльши вьсѣхъ тъгды знаѥмыхъ · онъ же ѿ года до года сѣдѧ бѣ въ кремли Даѳѵльскѣмь иже въ Аръвонѣ · И не мога по полюдьѥ ити аже и Гилоуаїтоуи Доничь и Гоуїдионъ Доничь ıаже сестрича ѥго ходиста съ дроужиноѭ по полюдиѥ въ ѥго мѣсто


Math uab Mathonwy oed arglwyd ar Wyned, a Pryderi uab Pwyll oed arglwyd ar un cantref ar ugeint yn y Deheu. Sef oed y rei hynny, seith cantref Dyuet, a seith Morgannhwc, a phedwar Kyredigyawn, a thri Ystrat Tywi.

Ac yn yr oes honno Math uab Mathonwy ny bydei uyw, namyn tra uei y deudroet ymlyc croth morwyn, onyt kynwryf ryuel a’y llesteirei. Sef oed yn uorwyn gyt ac ef, Goewin uerch Pebin o Dol Pebin yn Aruon. A honno teccaf morwyn oed yn y hoes o’r a wydit yno. Ac ynteu yg Kaer Dathyl yn Aruon yd oed y wastatrwyd. Ac ny allei gylchu y wlat, namyn Giluathwy uab Don, [a Gwydyon] uab Don, y nyeint ueibon y chwaer, a’r teulu gyt ac wy [a aei] y gylchu y wlat drostaw. (Williams 1930: 67)


Mae’r cyfieithiad yn seiliedig ar olygiad Ifor Williams (1930), a defnyddiais hefyd argraffiad Math Uab Mathonwy gan Ian Hughes (2013) a The Mabinogion, sef cyfieithiad a nodiadau Sioned Davies (2007). Wrth baratoi’r testun, cyfieithais yn llythrennol o’r testun Cymraeg Canol i Rwsieg Modern (gan ddefnyddio GPC arlein ac hefyd geiriadur a greais i fy hun (Geiriadur Cymraeg-Rwsieg, gw. Khrapof 2015)), ac cyfieithiodd Andriy Andrwsiac (Андрій Андрусяк) o Gyef, Wcráin wedyn yn cyfieithu yn llenyddol o’r Rwsieg i’r Hen Rwsieg. Mae’r holl drafod yn ystod y gwaith cyfieithu yn digwydd drwy gyfrwng yr Wcraïneg.

Pam Hen Rwsieg? Credaf ei bod hi’n fuddiol iawn ar gyfer y gwaith hwn am ei bod hi’n gwneud y testun Rwsieg yn debycach yn ei effaith i’r testun Cymraeg, h.y. bydd ymateb y darllenydd Rwsieg yn debycach i ymateb y darllenydd Cymraeg cyfoes i’r destun canoloesol. Mae Hen Rwsieg yr un mor ddealladwy i siaradwyr Rwsieg Modern (a siaradwyr Wcraïneg a Belorwsieg) ag yw Cymraeg Canol i Gymry cyfoes.

Hoffwn trafod rhai nodiadau ar nodweddion ieithyddol. Gall orgraff amrywio mewn testunau Cymraeg Canol, ac mae’r un peth yn wir am orgraff Hen Rwsieg; cadwyd y nodwedd hon yn ein cyfieithiad ni.

Aeth enwau tadenwol ‘Math uab Mathonwy’ a ‘Goewin uerch Pebin’ yn “Маѳъ Маѳонъвичь” a “Гоѥвинъ Пебиничьна”, yn debyg i Dobrynia Nikitič a Nastasia Mikulična o былины (bylina, ffurf o epig llafar Slafeg, gw. Bailey, Ivanova 2015) a chwedlau Rwsieg . Cyfieithwyd “heb” (ebe) yn wastad fel “рече/рекошѧ”, er bod llawer o ddullau gwahanol i gyflwyno araith uniongyrchol yn Rwsieg.

Er mwyn gwneud y testun yn debycach i groniclau Rwsieg, mae pobl Gwynedd (Math, Gwydyon, Lleu ac ati), yn siarad tafodiaith Nofgorod, Gogledd Rwsia, a’i nodweddion fel Rwsieg Nofgorod ˂ц˃ [ts] i ˂ч˃ [tɕ] Hen Rwsieg “safonolˮ (gw. Zalizniak 2004). Er enghraifft:


И се ѥго цвѣтъ и видъ и своиство истьлѣшѧ любъвьѭ къ нѥи · и тѣмь не бѣ льзѣ и́ паче познати

Одиноѭ Гоуидиѡнъ братъ ѥго възьрѣ нань и рече · Целовѣце цьто ти сѧ стало? И рече овъ · Цьто же? Цьто на мънѣ видиши? И рече Гоуидионъ братъ ѥго · Вижю тѧ изгоубивъша образъ свои и квѣтъ · тако цьто же ти єсть?


Ac nachaf y liw a’y wed a’y ansawd yn atueilaw o’y charyat, hyt nat oed hawd y adnabot.

Sef a wnaeth Guydyon y urawd, synnyeit dydgweith arnaw yn graf. “A was,” heb ef, “pa derw ytti?” “Pa ham?” heb ynteu. “Beth a wely di arnaf i?” “Gwelaf arnat,” heb ef, “colli dy bryt a’th liw, a pha deryw yti?” (Williams 1930: 68)


Er bod Hen Rwsieg yn debycach o lawer yn morffolegol i Rwsieg Cyfoes nag yw, er enghraifft, Saesneg Tolkien i Saesneg Bēoƿulf, mae sawl gwahaniaeth sy’n ei gwneud hi’n nes i’r Gymraeg (Canol a Chyfoes). Er enghraifft, mae rhif deuol yn Hen Rwsieg, fel yn y Gymraeg ac mae hyn creu effaith arbennig ar y darllenwyr.

Ond yn y nifer o amserau’r gorffennol y ceir y gwahaniaeth (a’r tebygrwydd) pwysicaf. Nid oes ond un amser gorffennol synthetig yn Rwsieg Cyfoes (Kemple 2012: 62), a tri yn y Gymraeg Canol, sef y gorffennol, yr amherffaith a’r gorberffaith (Evans 1994: 109-12). Ceir yr amherffaith, y gorffennol penodol, y perffaith a’r gorberffaith yn Hen Rwsieg (Zalizniak 2004: 134).

Credaf felly fod Hen Rwsieg yn llwyddo i gyfleu mwy o flas y Mabinogi gwreiddiol i ddarllenwyr Slafaidd cyfoes. Cafodd pedair cainc i gyd eu cyfieithu yn barod a gobeithiwn eu cyhoeddi gyda rhagymadrodd, nodiadau a llyfryddiaeth.

Un peth arall. Yn anffodus, ar hyn o bryd mae rhyfel cartref yn Wcráin, ac mae’r hen chwedl hon, Math uab Mathonwy, yn dangos y gall rhyfeloedd rhwng brodyr ddechrau am resymau cudd rhai unigolion, ac mae’r cyfieithiad hwn yn dangos bod rhaid cofio ein diwylliant ni, a pheidio â rhyfela.

Llyfryddiaeth

Andrwsiac, A., Hrapof, D., 2016, Мабиноги ıаже и рекома Молодьчıа повѣсть [Mabinogion] http://www.cymraeg.ru/mabinogi.html.
Bailey, J., Ivanova, T., 2015, An Anthology of Russian Folc Epics. NY: Routledge.
Davies, S., 2007, The Mabinogion. Oxford: Oxford University Press.
Erlichman, V. (cyf.), 1995, Мабиногион. Волшебные легенды Уэльса [Mabinogion. Chwedlau hudol Cymru]. Mosgo: Ladomir.
Erlichman, V. (cyf., rhagair, nodiadau), 2002, Мабиногион. Легенды средневекового Уэльса [Mabinogion. Chwedlau Cymru Canoloesol]. Mosgo: Argraff.
Evans, D.S., 1964, A Grammar of Middle Welsh. Dublin: Dublin Institute for Advanced Studies.
Falileyev, A., 2002, adolygiad Erlichman 2002. Критическая масса 1, 39–42.
Geiriadur Cymraeg-Rwsieg http://www.cymraeg.ru/geiriadur/
GPC Online. University of Wales Centre for Advanced Welsh & Celtic Studies, 2016. http://www.geiriadur.ac.uk
Hughes, I., 2013, Math uab Mathonwy: the fourth branch of the Mabinogi. Dublin: Dublin Institute for Advanced Studies.
Kemple, B., 2012, Essential Russian Grammar. Mineola: Dover Publications.
Khrapov, D., 2015, ʻDaoulagad – a Celto-Slavic OCR Dictionaryʼ, in: Johnston, D., Parina, E., Fomin, M., eds., ‘Yn llawen iawn, yn llawn iaith’: Proceedings of the 6th International Colloquium of Societas Celto-Slavica. Studia Celto-Slavica 7. Aberystwyth: University of Wales Centre for Advanced Welsh and Celtic Studies, 283–4.
Parina, E., 2003, ʻОбзор переводов “Четырёх ветвей Мабиноги”ʼ [Adolygiad o gyfieithiadau o Pedeir Keinc y Mabinogi], yn: Язык и культура кельтов. Материалы IX коллоквиума. [Iaith a Diwylliant y Celtiaid. Trafodion 9fed gynhadledd], St. Petersburg: Nauka, 96–104.
Volodarskaya, L., 2000, Кельты. Валлийские сказания. [Celtiaid. Chwedlau Cymraeg.] Mosgo: Art-Flex.
Williams, I., 1930, Pedeir Keinc y Mabinogi. Caerdydd: Gwasg Prifysgol Cymru.
Zaliznjak, A.A., 2004, Древненовгородский диалект [Tafodiaith Hen Nofgorod]. Mosgo: Jazyki slavjanskoj kul’tury.

К началу