К началу

А. С. Пушкин

Бесы



Мчатся тучи, вьются тучи;
Невидимкою луна
Освещает снег летучий;
Мутно небо, ночь мутна.
Еду, еду в чистом поле;
Колокольчик дин-дин-дин...
Страшно, страшно поневоле
Средь неведомых равнин!

„Эй, пошел, ямщик!...“ — „Нет мочи
Коням, барин, тяжело;
Вьюга мне слипает очи;
Все дороги занесло;
Хоть убей, следа не видно;
Сбились мы. Что делать нам!
В поле бес нас водит, видно,
Да кружит по сторонам.

Посмотри: вон, вон играет,
Дует, плюет на меня;
Вон — теперь в овраг толкает
Одичалого коня;
Там верстою небывалой
Он торчал передо мной;
Там сверкнул он искрой малой
И пропал во тьме пустой“.

Мчатся тучи, вьются тучи;
Невидимкою луна
Освещает снег летучий;
Мутно небо, ночь мутна.
Сил нам нет кружиться доле;
Колокольчик вдруг умолк;
Кони стали... „Что там в поле?“ —
„Кто их знает? пень иль волк?“

Вьюга злится, вьюга плачет;
Кони чуткие храпят;
Вот уж он далече скачет;
Лишь глаза во мгле горят;
Кони снова понеслися;
Колокольчик дин-дин-дин...
Вижу: духи собралися
Средь белеющих равнин.

Бесконечны, безобразны,
В мутной месяца игре
Закружились бесы разны,
Будто листья в ноябре...
Сколько их! куда их гонят?
Что так жалобно поют?
Домового ли хоронят,
Ведьму ль замуж выдают?

Мчатся тучи, вьются тучи;
Невидимкою луна
Освещает снег летучий;
Мутно небо, ночь мутна.
Мчатся бесы рой за роем
В беспредельной вышине,
Визгом жалобным и воем
Надрывая сердце мне...

Yr Ellyllon

(Helynt y bardd yn ei yslêd wedi colli ei ffordd gefn nos yn yr eira, 1830.)

Gwibia’r cymyl du a throellog
Gan orchuddio’r lleuad fry
A oleua luwch yr eira
Sydd yn casglu ar bob tu ;
Minnau’n gwibio dros y maestir,
Clych y meirch yn canu llon;
Ond wae tristwch yn fy nghalon
Ar y noson drymllyd hon.

“Gyr yn gyflym, yrrwr diog.”
“Ond nis gallaf, syr,” medd ef.
“Mae’r ceffylau yn diffygio,
Nid oes modd mynd tua thref.
Er fy lladd nid af ymhellach,
Draw mi welaf ddieflyn hyll
Yn ein hudo tua’r dibyn
I’n dinistrio fy y gwyll.”

“Rhithiodd megis carreg filltir
Ger fy mron ar fin y ffos,
Yna gwibiodd fel gwreichionen
A diflannodd yn y nos.
Feistr annwyl, gwêl ef eto
Yn crechwenu arnom ni
Ac yn bygwth ein distrywio
Gan ein claddu dan y lli.”

Gwibia’r cymyl du a throellog
Gan orchuddio’r lleuad fry
A oleua luwch yr eira
Sydd yn casglu o bob tu.
Mud yw’r clych, mae meirch yn sefyll,
Y mae’r diffwys mawr gerllaw;
Pwy a ŵyr ai blaidd ai bonyn
Sydd yn cuchio arnom draw?

Gwaeth yw’r ddrycin, clyw hi’n udo
Yn y nentydd tywyll draw;
Hwythau’r meirch ar fin gwallgofi
Ac yn crynu yn eu braw.
Clywir eto clych yn tincian;
Ond er cychwyn tua’r cwm
Saif y meirch. Mae llu’r ellyllon
Yn y dolydd anial, llwm.

Yn ddi-lun, heb ddiwedd arnynt,
Yng ngoleuni llwyd y lloer,
A di-rif fel deilios Tachwedd
Heidiant gyda’u crechwen oer
I gynhebrwng mab y cythraul
Gyda sain uffernol gân,
Neu, efallai, ânt i rwymo
Gwiddon mewn priodas lân.

Gwibia’r cymyl du a throellog
Gan orchuddio’r lleuad fry
A oleua luwch yr eira
Sydd yn casglu ar bob tu.
Hed aneirif lu’r ellyllon
Tua’r wybren uchel, lom,
Gan oernadu’n annaearol
Ac archolli ’nghalon drom.
wedi ei chyfieithi gan
T. Hudson-Williams
Cerddi o’r Rwsieg
The Gwynn Publishing Co.
Llangollen, N. Wales
Tachwedd, 1945

OCR — Daoulagad

К началу